Teitl y ddeiseb: Dileu cynlluniau i newid strwythur y flwyddyn ysgol Geiriad y ddeiseb: Nid yw sylfaen dystiolaeth Llywodraeth Cymru yn ddigon cadarn i gyfiawnhau’r newidiadau arfaethedig, a fydd yn tarfu’n sylweddol ar ein hysgolion ac ar y sectorau amaethyddol a thwristiaeth yng Nghymru. Credwn nad nawr yw’r amser i newid strwythur y flwyddyn ysgol a gwneud y gwyliau haf yn fyrrach. Mae’r sector addysg yng Nghymru wedi wynebu newidiadau sylweddol, sydd wedi cael effaith fawr ar lwythi gwaith a llesiant ein gweithlu. Mae’r gwyliau haf yng Nghymru ymhlith y byrraf yn Ewrop. Mae myfyrwyr ysgol gynradd ac ysgol uwchradd yn yr Eidal, Portiwgal, a Sbaen yn elwa o wyliau haf hir o 12 i 13 wythnos. Mae disgyblion yn Sweden yn cael 10 wythnos o wyliau haf, 8 wythnos yn Ffrainc a Norwy, a 7 wythnos yn yr Almaen. Perfformiodd yr holl wledydd hyn yn well na Chymru yn y canlyniadau PISA diweddaraf. At hyn, nid yw’r cynlluniau’n cymryd lle cynnig cymorth digonol i blant difreintiedig a’u teuluoedd, megis cyfleoedd i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau a gweithgareddau chwaraeon a gweithgareddau creadigol sydd wedi’u hariannu. https://www.oecd-ilibrary.org/sites/9149c2f5-en/index.html?itemId=/content/component/9149c2f5-en |
Ym mis Rhagfyr 2017, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad annibynnol o delerau ac amodau athrawon ysgol. Roedd adroddiad y panel adolygu, sef Addysgu: proffesiwn gwerthfawr (ym Medi 2018) yn argymell y dylid sefydlu Comisiwn i 'ail-greu addysg yng Nghymru'. Byddai hyn yn cynnwys trafod a ddylid ailystyried rhediad y flwyddyn ysgol, patrwm tymhorau a gwyliau, a ffurf y diwrnod ysgol.
Penodwyd Panel Arbenigol yn 2019 i ymgymryd â cham cyntaf y gwaith. Roedd disgwyl i’r Panel gyflwyno ei adroddiad i Lywodraeth Cymru erbyn mis Medi 2019. Ym mis Ionawr 2021, fodd bynnag, dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg ar y pryd, fod COVID 19 wedi atal y gwaith hwn yn rhannol.
Mae Rhaglen Lywodraethu 2021-2026 Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i ystyried diwygio strwythur y diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol. Gan adeiladu ar yr ymrwymiad hwn roedd y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn datgan:
“Er mwyn lleihau anghydraddoldeb addysgol a chefnogi lles y dysgwyr a’r staff, byddwn yn ystyried diwygio dyddiadau tymhorau ysgol mewn ffordd radical er mwyn iddynt gyd-fynd yn well â phatrymau bywyd teuluol a chyflogaeth.”
Ar 4 Mehefin 2024, dywedodd Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg na fyddai dimnewidiadau i batrwm y flwyddyn ysgol yn cael eu rhoi ar waith o fewn cyfnod y Senedd hon.
Ym mis Ionawr 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y ddogfen 'Effaith newidiadau i'r flwyddyn ysgol a chalendrau ysgol amgen: adolygu tystiolaeth a chrynodeb o brif ganfyddiadau ac argymhellion Asesiad Cyflym o’r Dystiolaeth. Roedd yr adolygiad yn edrych ar ddeunydd darllen a oedd yn cynnwys astudiaethau o Gymru, o’r DU yn ehangach, ac o UDA. Canfu fod tystiolaeth 'gymysg ac amhendant' yn gysylltiedig â newid y flwyddyn ysgol. Roedd yr adolygiad yn argymell sicrhau bod unrhyw raglen arfaethedig i newid y calendr ysgol yn cynnwys proses drylwyr ac o ansawdd o gasglu a gwerthuso tystiolaeth o’r cychwyn cyntaf.
Wedi’i gynnwys yng nghanfyddiadau rhagor o waith ymchwil, sef Diwygio'r flwyddyn ysgol: canfyddiad a phrofiadau o'r calendr ysgol presennol (3 Hydref 2023) roedd:
§ Mae’r gwyliau o 6 wythnos yn achosi colled dysgu i bob dysgwr ond chydig iawn o effaith barhaol sydd i’r golled hon gydag adferiad yn digwydd yn fuan ar ôl cychwyn tymor yr Hydref.
§ Ar ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol mae’r calendr ysgol presennol yn effeithio fwyaf. Grŵp arall yr effeithir yn fwy arnynt o safbwynt cynnydd a chyrhaeddiad yw’r rheini sydd o gefndiroedd difreintiedig yn gymdeithasol ac economaidd.
§ Mae anghysondeb mewn hyd tymhorau yn cynyddu lefelau blinder ar bwyntiau penodol o’r flwyddyn ac yn effeithio ar agwedd at ddysgu ar bwyntiau allweddol fel diwedd tymor yr hydref a thymor yr haf. Ystyrir nad yw’r seibiannau byrraf yn cael fawr o effaith ar ddatrys materion blinder a llesiant, ac ystyrir bod pythefnos yn fwy buddiol nag un wythnos. Mae cynnydd mewn ymddygiad aflonyddgar wrth i lefelau blinder gynyddu.
Parhaodd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y cynigion o fis Tachwedd 2023 hyd fis Chwefror 2024. Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai newidiadau i’r flwyddyn ysgol yn cefnogi dysgwyr a’r gweithlu addysg o ran mynd i’r afael ag anfantais, yn cefnogi dysgu a llesiant, ac yn adlewyrchu sut mae pobl yn byw ac yn gweithio nawr. Roedd y canlynol ymhlith y cynigion:
§ Tymhorau o hyd mwy cyfartal;
§ Ailddosbarthu cyfnodau gwyliau; a
§ Lleihau hyd gwyliau haf.
Ni fyddai dim newid i nifer cyffredinol y diwrnodau addysgu nac i nifer cyffredinol y gwyliau ysgol, ac ni fyddai’r egwyl haf yn cael ei leihau i lai na phedair wythnos. Daeth rhagor na 16,000 o ymatebion i law o ganlyniad i’r ymgynghoriad.
Roedd yr ymgynghoriad yn nodi tri chynnig craidd:
§ Opsiwn 1: Cadw’r sefyllfa bresennol
§ Opsiwn 2: Egwyl o bump wythnos dros yr haf, egwyl o bythefnos yn yr hydref, a'r hyblygrwydd i ddatgysylltu gwyliau’r gwanwyn a gŵyl gyhoeddus y Pasg;
§ Opsiwn 3: Gan ddatblygu Opsiwn 2, sef pedair wythnos o egwyl haf; egwyl o bythefnos ym mis Mai, a threfnu i ganlyniadau UG, Safon Uwch a TGAU gael eu cyhoeddi ar yr un diwrnod.
Wrth gyhoeddi na fyddai’r diwygiadau’n cael eu rhoi ar waith yn ystod cyfnod y Senedd hon, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Dros weddill tymor y Senedd hon, rwy'n bwriadu parhau i archwilio'r cynigion a nodwyd yn ein hail opsiwn yn yr ymgynghoriad: pum wythnos o haf, toriad o bythefnos yn yr hydref, a'r hyblygrwydd i ddatgysylltu toriad diwedd tymor y Pasg o ŵyl y Pasg. Fodd bynnag, mae diwygio pethau'n iawn yn golygu sicrhau ei fod wedi'i gynllunio'n iawn a'i fod yn cael yr amser a'r lle i lwyddo. Rwyf am gymryd yr amser hwn i drafod gyda phlant a phobl ifanc, rhieni, y gweithlu a phartneriaid eraill yr hyn y gallai'r newidiadau hyn ei olygu a phryd fyddai'r amser iawn ar eu cyfer nhw. Ni fydd unrhyw benderfyniadau terfynol cael eu gwneud yn nhymor y Senedd hon, gan fy mod i'n teimlo'n gryf bod angen i ni barhau i ganolbwyntio ar y rhaglen uchelgeisiol o ddiwygiadau sy'n gennym eisoes yn ystod y cyfnod hwn, ac rwy'n ymwybodol iawn ein bod ni'n gofyn llawer gan athrawon ac ysgolion.
Mewn llythyr agored ar y cyd (fis Ionawr 2024) at Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar y pryd, galwodd undebau athrawon a staff ysgolion, undebau ffermio a chyrff twristiaeth ar Lywodraeth Cymru i dynnu ei chynigion i ddiwygio’r flwyddyn ysgol yn ôl. Roeddent yn dadlau:
§ Nid yw’r rhesymau addysgol y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi dros y diwygiadau wedi’u cadarnhau gan ymchwil.
§ Bydd y newid arfaethedig i wyliau'r haf yn arwain at rai atyniadau'n cau a swyddi'n cael eu colli. Mae llawer o atyniadau yn cymryd dros 45% o'u hincwm blynyddol yn ystod gwyliau'r haf presennol.
§ Mae'r diwydiant twristiaeth yn cyflogi llawer o bobl ifanc yn ystod cyfnod gwyliau'r haf.
§ Mae llawer o fusnesau ffermio sydd wedi arallgyfeirio i’r sector twristiaeth yn elwa o dymor brig o chwe wythnos lle mae’r tywydd yn llawer mwy ffafriol.
Goblygiadau’r cynnig y gallai gwyliau’r haf gael ei gwtogi o wythnos, yw y byddai ysgolion ar agor yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru. Dywedodd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ei bod yn 'gwrthwynebu'n gryf' y cynigion a fyddai'n arwain at fod ysgolion ar agor yn ystod wythnos y Sioe. Mae’r Sioe yn amcangyfrif y byddai ar ei cholled o hyd at £1 miliwn o ran incwm.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |